Post gan Joe ac Aron, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru
Mae staff Llywodraeth Cymru yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) yn treulio llawer o oriau yn fformatio eu siartiau i’w cyhoeddi, gan sicrhau bod maint ffont yn gywir, bod lliwiau’n dilyn y canllawiau ac echelinau wedi’u labelu. Mae’r Uned Gwyddor Data wedi symleiddio’r prosesau hyn trwy greu pecyn cod a ysgrifennwyd yn R, a elwir yn KASStylesR. Gyda KASStylesR, gall timau gynhyrchu siartiau Cymraeg a Saesneg parod i gyhoeddi mewn llawer llai o amser na fyddai wedi’i gymryd i’w gwneud â llaw.
1000au o siartiau y flwyddyn – llawer o arbed amser!
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi nifer fawr o adroddiadau ymchwil ac ystadegol ar-lein ar draws ystod o feysydd gan gynnwys ystadegau economeg, addysg ac iechyd. Mae ystadegwyr, dadansoddwyr ac ymchwilwyr yn datblygu’r rhain i sicrhau bod data annibynnol a defnyddiol ar gael yn eang. Defnyddir siartiau yn aml i ddarlunio’r data a darparu cyd-destun pellach mewn ffordd ddealladwy a hygyrch.
Mae KASStylesR yn defnyddio cynllun lliw, arddull, ac yn helpu defnyddwyr i ffurfio ac arbed siartiau. Mae’r nodweddion hyn yn disodli camau prosesu â llaw sy’n cymryd llawer o amser. Mewn un achos, helpodd KASStylesR ystadegydd i leihau eu hamser prosesu mewn cyhoeddiad o un diwrnod a hanner i lai nag awr! Bydd cyfanswm yr arbedion amser yn cynyddu wrth i fwy o bobl yn Llywodraeth Cymru fabwysiadu KASStylesR.
Helpu defnyddwyr i ddilyn arfer gorau a sicrhau hygyrchedd
Mae KASStylesR hefyd yn ein helpu i gynhyrchu cynnwys hygyrch. Er enghraifft, os bydd rhywun yn dewis defnyddio siart gyda 6 lliw gwahanol, codir rhybudd i gynghori bod angen fformat siart symlach. Wrth arbed siartiau i’w cyhoeddi, mae KASStylesR hefyd yn gofyn inni ychwanegu gwybodaeth berthnasol.
Mae KASStylesR yn un ffordd y mae’r Uned Gwyddor Data yn annog defnyddio Cynlluniau Dadansoddol Atgynhyrchu (RAP) o fewn Llywodraeth Cymru. Nod RAP yw disodli tasgau prosesu data â llaw gyda phroses godio, wedi’i hysgrifennu mewn ieithoedd rhaglennu fel Python ac R. Yn ogystal ag arbed amser, gall RAP wella ansawdd trwy y gallu i atgynhyrchu, tryloywder, gwirio gwallau awtomataidd, ac osgoi gwallau â llaw.
Swnio fel y gallai eich helpu? Gallwch chi ei ddefnyddio hefyd!
Bydd KASStylesR yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar GitHub, gofod storio ar-lein canolog ar gyfer cod. Mae hyn yn golygu y bydd awgrymiadau a nodweddion newydd ar gael i bob defnyddiwr, a dim ond unwaith y bydd angen gweithredu canllawiau newydd er budd pawb. Drwy sicrhau ei fod ar gael i bawb, gall sefydliadau eraill hefyd fabwysiadu’r cod, ei addasu i’w hanghenion, a’i ddefnyddio ar gyfer eu cyhoeddiadau eu hunain.